Croeso i Ganolfan Cae Cymro
Saif Canolfan Cae Cymro ar safle uwchben pentref Clawddnewydd,
ger Rhuthun. Mae’n safle gyda golygfeydd bendigedig o Fryniau
Clwyd, mynyddoedd y Berwyn, gyda thiroedd amaethyddol Dyffryn
Edeyrnion yn y pellter.
Mae Canolfan Cae Cymro yn ganolfan sy’n eiddo i’r gymuned a agorwyd
yn swyddogol yn Ionawr 1998, yn dilyn cyfnod o godi arian gan
gymuned Clawddnewydd, Derwen a Chlocaenog, a chyfraniad hynod
hael o dir ar gyfer codi’r Ganolfan gan Mr Arthur Williams, Allt y Celyn.
Mae’r Ganolfan yn adeilad aml-bwrpas, gyda neuadd fawr (lle i tua 180 i
200 o bobl ar gyfer cyngerdd neu 120 i fwyta), ystafell haul gyda lle i
gynnal digwyddiadau ‘llai’ ar gyfer tua 25 o bobl i fwyta, cegin, ardal bar,
toiledau, ystafell bwyllgora i fyny’r grisiau, a chyfleusterau cawodydd ar
gyfer timau pêl droed. Mae maes parcio helaeth yn amgylchynu’r
Ganolfan; maes chwarae i blant wrth y fynedfa, a chae pêl droed eang
uwchben y safle.
Caiff y Ganolfan ei defnyddio’n wythnosol ar gyfer amryw o
weithgareddau, gan gynnwys dawnsio llinell, chwarae chwist a bowlio,
cyfarfodydd crefyddol ac yn achlysurol ar gyfer priodasau, partion
penblwydd, ymarferion, dramau, cyngherddau, cyfarfodydd, ciniawau a
ffeiriau Nadolig.
Bu’r Ganolfan yn ddigon ffodus yn ddiweddar i sicrhau cyllid sylweddol
gan Gronfa Wynt Clocaenog, a’n galluogodd i ymateb i heriau
moderneiddio adeiladau’r 21ain ganrif, gan gynnwys paneli solar, ynysu’r
nenfwd, ffenestri, byrddau a chadeiriau newydd. Mae, felly, yn adeilad
modern, aml-bwrpas arbennig iawn.